Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad


Lleoliad:

Fideogynhadledd drwy Zoom

Dyddiad: Dydd Llun, 15 Mawrth 2021

Amser: 09.30 - 10.48
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11068


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Mick Antoniw AS (Cadeirydd)

Carwyn Jones AS

Dai Lloyd AS

David Melding AS

Staff y Pwyllgor:

P Gareth Williams (Clerc)

Sarah Sargent (Ail Glerc)

Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cadarnhaodd y Cadeirydd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

</AI1>

<AI2>

2       Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

</AI2>

<AI3>

2.1   SL(5)756 - Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2021

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

</AI3>

<AI4>

2.2   SL(5)779 – Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2021

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

</AI4>

<AI5>

3       Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

</AI5>

<AI6>

3.1   SL(5)770 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) 2021

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

</AI6>

<AI7>

3.2   SL(5)757 - Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 2021

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI7>

<AI8>

3.3   SL(5)758 - Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Gorchmynion Atal Dros Dro Interim) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2021

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

</AI8>

<AI9>

3.4   SL(5)769 – Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2021

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac ymateb y Llywodraeth iddo, a nododd fod yr offeryn wedi'i dynnu'n ôl a'i ddisodli gan Reoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2021.

 

</AI9>

<AI10>

3.5   SL(5)783 - Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2021

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI10>

<AI11>

4       Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol.

</AI11>

<AI12>

4.1   SL(5)764 - Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

</AI12>

<AI13>

5       Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C

</AI13>

<AI14>

5.1   WS-30C(5)217 - Rheoliadau Allyriadau Nwyon Ty Gwydr (Cofrestrfa Protocol Kyoto) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2021

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ofyn am eglurhad pellach gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd mewn perthynas â'r datganiad.

</AI14>

<AI15>

6       Papur(au) i’w nodi

</AI15>

<AI16>

6.1   Llythyr gan The Kennel Club: Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021

Nododd y Pwyllgor y llythyr, a chytunodd i dynnu sylw Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ato.

</AI16>

<AI17>

6.2   Llythyr oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Amgylchedd.

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

</AI17>

<AI18>

6.3   Llythyr oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mesur Dros Dro) (Covid-19) (Diwygio) 2021 a'r Rheoliadau Organig (Diwygio) 2021

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

</AI18>

<AI19>

7       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI19>

<AI20>

8       Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu) - trafod yr adroddiad drafft

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu), a chytunodd i gwblhau'r drafodaeth arno y tu allan i'r Pwyllgor.

</AI20>

<AI21>

9       Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Lluoedd Arfog - trafod yr adroddiad drafft

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil y Lluoedd Arfog, a chytunodd i ystyried fersiwn ddiwygiedig yn ei gyfarfod nesaf.

</AI21>

<AI22>

10    Gwaith gwaddol - trafod yr adroddiad drafft

Trafododd y Pwyllgor ddrafft diwygiedig o’i adroddiad gwaddol, a chytunodd i ystyried drafft diwygiedig arall yn y cyfarfod nesaf.

</AI22>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>